Y Pwyllgor Deisebau |
Lleoliad: |
Ystafell Bwyllgora 1 - y Senedd |
|
|
||
|
|
||||
Dyddiad: |
Dydd Mawrth, 12 Mai 2015 |
|
|||
|
|
||||
Amser: |
09.02 - 09.55 |
|
|||
|
|
||||
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV yn:
|
|||||
|
|||||
|
|||||
Cofnodion Cryno: |
|||||
|
|
|
|||
Aelodau’r Cynulliad: |
|
William Powell (Cadeirydd) Russell George Bethan Jenkins Joyce Watson |
|||
|
|
||||
|
|
|
|||
Tystion: |
|
||||
|
|
||||
|
|
|
|||
Staff y Pwyllgor: |
|
Steve George (Clerc) Kath Thomas (Dirprwy Glerc) Helen Roberts (Cynghorydd Cyfreithiol) |
|||
|
|
||||
1 Cyflwyniad, ymddiheuriadau a dirprwyon
Croesawodd y Cadeirydd bawb i gyfarfod y Pwyllgor.
Estynnodd groeso cynnes i Aelodau a staff Cydbwyllgor Trosolwg o Wasanaethau Cyhoeddus a Deisebau, Senedd Gweriniaeth Iwerddon, a oedd yn arsylwi yn yr Oriel Gyhoeddus.
Ni chafwyd unrhyw ymddiheuriadau.
2 Deisebau newydd
2.1 P-04-630 Rheoliadau Facebook ar gyfer plant sy’n derbyn gofal
Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd i ysgrifennu at:
· Y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol i nodi sylwadau pellach y deisebydd, ac i ofyn a allai ef neu ei swyddogion gwrdd â’r deisebydd i drafod y materion penodol a godwyd fel rhan o’r ddeiseb;
· Y Comisiynydd Plant i ofyn am ei barn; a
· Plant yng Nghymru i ofyn pa wybodaeth sydd ganddo am y mater hwn.
2.2 P-04-631 Achub ein Gwasanaeth - Achub Anifeiliaid Mawr yng Ngogledd Cymru
Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd i:
· Ysgrifennu at:
Ø Wasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru; ac
Ø Y RSPCA
i ofyn eu barn am y ddeiseb.
· Undeb y Brigadau Tân, Cymru yn gofyn am wybodaeth am y sefyllfa yn Ne a Chanolbarth a Gorllewin Cymru.
2.3 P-04-632 Mynyddoedd Pawb
Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd i:
· ysgrifennu at:
Ø Gomisiynydd y Gymraeg, i ofyn am ei barn am y ddeiseb;
Ø Croeso Cymru a Chynghrair Twristiaeth Cymru, o gofio amcan y deisebwyr i ddefnyddio’r mater hwn fel ffordd o hyrwyddo mentrau twristiaeth awyr agored;
Ø Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru; ac
Ø Y Dirprwy Weinidog, i ofyn ei farn am sylwadau pellach y deisebydd;
· Ceisio cael cyngor cyfreithiol ar rôl Llywodraeth Cymru, ac yn benodol, a allai’r Llywodraeth gymryd rhan fwy uniongyrchol yn y broses, o bosibl drwy gyfrwng y Bil Amgylchedd Hanesyddol, unwaith y caiff ei gyflwyno.
2.4 P-04-633 Codi Ymwybyddiaeth o’r Band Eang Gwael yn Ein Hardal
Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd i aros i glywed barn y deisebydd am lythyr y Dirprwy Weinidog Addysg a Sgiliau.
3 Yr wybodaeth ddiweddaraf am ddeisebau blaenorol
3.1 P-03-236 Siarter i Wyrion ac Wyresau
Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth gan y deisebydd a chytunodd i:
· Ysgrifennu at y deisebydd yn diolch iddo am ei ateb ystyriol ac am ymgysylltu â’r broses ddeisebu; a
· Chau’r ddeiseb, o gofio ei bod yn ymddangos bod digwyddiadau wedi symud ymlaen ers i’r ddeiseb gael ei hystyried ddiwethaf.
3.2 P-04-587 Tîm Cymorth pwrpasol ar gyfer dioddefwyr Enseffalomyelitis Myalgig (ME), Syndrom Blinder Cronig a Ffibromyalgia yn ne-ddwyrain Cymru
Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunwyd i:
· Aros am ymateb gan y deisebwyr; ac
· Ysgrifennu at y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol yn diolch iddo am ei ateb defnyddiol, ac yn gofyn am gael gwybod am y prif gamau gweithredu y cytunwyd arnynt o ganlyniad i gyfarfod cyntaf y grŵp gweithredu, a oedd i’w gynnal ar 13 Mai.
3.3 P-04-363 Cynllun i Wella Canol Tref Abergwaun
Ystyriodd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd, yng ngoleuni sylwadau’r deisebydd, i ysgrifennu at:
· Weinidog yr Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth a Chyngor Sir Penfro yn gofyn am y wybodaeth ddiweddaraf am unrhyw gynlluniau ar gyfer gwella canol tref Abergwaun; ac
· Y deisebydd, yn gofyn a oes unrhyw gamau pellach penodol y gallai’r Pwyllgor eu cymryd i wneud cynnydd o ran y ddeiseb.
3.4 P-04-522 Asbestos mewn Ysgolion
Trafododd y Pwyllgor ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i ysgrifennu at y Gweinidog Addysg a Sgiliau:
· Yn gofyn am ei farn ar sylwadau pellach y deisebydd ac yn benodol, yn gofyn am ei farn ar gynnig y deisebydd i sefydlu grŵp llywio i gynnwys arbenigwyr o bob sector; ac
· Yn diolch iddo am addo i ddarparu diweddariad ysgrifenedig i’r Pwyllgor erbyn 5 Mehefin.
3.5 P-04-581 Gwrthwynebiad i’r toriadau mewn ar gyfer Dysgwyr o Saesneg fel Iaith Ychwanegol
Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunwyd i:
· Ysgrifennu at y Gweinidog Addysg a Sgiliau yn gofyn am ei sylwadau ar gynnwys llythyr Cyngor Dinas Abertawe a’r feirniadaeth oblygedig a geir ynddo; ac
· Aros am sylwadau pellach gan y deisebydd.
3.6 P-04-615 Taliad Benthyciad Teg i Fyfyrwyr yn y Flwyddyn Olaf o Hyfforddiant
· Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i ofyn am sylwadau pellach gan y deisebydd.
3.7 P-04-537 Plannu Coed i Leihau Llifogydd
Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb, a chytunodd i nodi pryderon y deisebydd wrth y Gweinidog Cyfoeth Naturiol.
3.8 P-04-544 Gwahardd Saethu Gwyddau Talcen-wen yr Ynys Las
Roedd Joyce Watson am gofnodi ei bod yn aelod o’r RSPB.
Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunwyd i:
· Drosglwyddo llythyr yr Athro Fox i’r Gweinidog Cyfoeth Naturiol i ofyn am ei farn ar ei gynnwys, ac ar y rheswm pam mae’n ymddangos bod Lywodraeth Cymru wedi dangos ei bod yn erbyn diogelwch statudol i’r aderyn hwn er bod gwladwriaethau eraill wedi sicrhau hynny;
· Gofyn iddo ailystyried safbwynt Llywodraeth Cymru ar y mater hwn.
3.9 P-04-539 Achub y Gyfnewidfa Lo
Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunwyd i:
· Ysgrifennu at Weinidog yr Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth yn gofyn iddi:
o ganiatáu i’r Pwyllgor weld canlyniadau’r astudiaeth ddichonoldeb gychwynnol cyn gynted ag y byddant ar gael; ac
o am ragor o wybodaeth am y broses o ddewis y contractwyr a ddefnyddiwyd i gynnal yr astudiaeth ddichonoldeb, ac yn benodol, pam nad contractwyr CADW a ddefnyddiwyd;
· am gael ymweld â’r tu allan i’r Adeilad, gyda’r deisebydd, fel y gall yr Aelodau gael dealltwriaeth well o gyflwr yr Adeilad.
3.10 P-04-617 Stopiwch y Troslgwyddo Dilyffethair o Lyfrgelloedd Cyhoeddus i’r Sector Gwirfoddol
Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i ysgrifennu at:
· Y Dirprwy Weinidog Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth yn gofyn ei farn am sylwadau pellach y deisebydd; a
· Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru yn gofyn am ei barn am lythyr y Dirprwy Weinidog.
3.11 P-04-578 Gwaith Gostegu Sŵn ar yr M4, i’r Gorllewin o Gyffordd 32
Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunwyd i:
· Ysgrifennu eto at y Gweinidog i ofyn am y wybodaeth ddiweddaraf am y sefyllfa, gan gynnwys unrhyw amcangyfrif ynghylch pryd y bydd gwaith i wella’r sefyllfa ar gyfer y deisebydd yn debygol o ddigwydd.
· Gwrthod y cais am ymweliad safle ar hyn o bryd, o ystyried bod y lefel sŵn uchel yn yr ardal yn cael ei dderbyn ar hyn o bryd.
3.12 P-04-609 Cefnogwch Fusnesau Bach - Cefnogwch ein Strydoedd Mawr
Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ar y ddeiseb gan Weinidog yr Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth a chytunwyd i:
· Aros am sylwadau gan y deisebydd, ac
· Os bydd y deisebydd yn cytuno, o ystyried bod llythyr y Gweinidog yn awgrymu bod prif fyrdwn y mater a godwyd wedi cael ei gyflawni, i gau’r ddeiseb.
3.13 P-04-614 Cefnogi Gwasanaeth Dosbarth Cyntaf Arriva Trains Cymru
Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunwyd i:
· Aros am sylwadau pellach gan y deisebydd;
· Ystyried cau’r ddeiseb gan ei bod yn anodd gweld sut y gallai’r Pwyllgor ychwanegu unrhyw werth pellach.
3.14 P-04-459 Cysylltiad rheilffordd uniongyrchol o Faes Awyr Caerdydd i ganol Caerdydd a gorllewin Cymru
Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunwyd i:
· Ofyn am sylwadau gan y deisebydd;
· Ystyried cau y ddeiseb gan fod llythyr y Gweinidog yn nodi nad yw pwnc y ddeiseb wedi’i ddatganoli mewn gwirionedd.
3.15 P-04-416 Gwasanaethau Rheilffyrdd Gogledd-De
Ystyriodd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb, a chytunodd i ofyn i Weinidog yr Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth am ei barn ar sylwadau pellach y deisebydd.
4 Gohebiaeth
4.1 Nododd y Pwyllgor yr ohebiaeth gan Gadeirydd y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol, a chytunodd i weithio gyda Chydffederasiwn y GIG i helpu i hwyluso atebion gan Fyrddau Iechyd Lleol.
4.2 Yn dilyn cynnig gan y Cadeirydd, cytunodd y Pwyllgor o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o’r cyfarfod er mwyn trafod mater sy’n ymwneud â busnes mewnol y Pwyllgor.